Skip to content
| Pam nad yw smygu'n cwl | Paratoi i roi gorau iddi | Help i aros in ddi-fwg | Pethau i'w gwneud |
 

Dyma dy wythnos gyntaf, rho gic yn nhin y nicotin!

Mae’r wythnos gyntaf yn mynd i fod yn anodd, ond paid rhoi mewn eto! Mae llwyth o bethau rwyt ti’n gallu gwneud er mwyn rhoi cic yn nhin y nicotin!

Yfa lot o ddwr, bydd yn golchi’r nicotin a’r gwenwynau eraill allan o dy gorff di (ac yn rhoi rhywbeth i ti wneud i dynnu dy feddwl oddi ar y ffags). Ond dyw te, coffi a cola ddim yn syniad da, oherwydd gall y caffein wneud yr awch yn waeth.

Cymra bethau’n araf, gorwedda ar y soffa gyda ffilm dda – mae rheswm gyda ti nawr! Mae rhoi’r gorau iddi yn galed ar dy gorff, felly paid gwneud gormod o ymarfer.

Dim ond am dair munud y mae’r awch am ffag yn para, felly rwyt ti’n GALLU ei guro fe. Wyt ti’n ddigon o ddyn?

Ymlacia, o fewn dim ond ugain munud o roi’r gorau iddi, mae dy gorff di’n dechrau gwella.

Os wyt ti’n teimlo’n unig, ffonia ffrind sydd ddim yn smygu am help, neu hyd yn oed ffonia Llinell Gymorth Smygwyr Cymru, sy’n rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol, ar 0800 1690169.

Chwilio


In this section

1. Yr wythnos gyntaf1. Yr wythnos gyntaf |
2. Yr ail wythnos2. Yr ail wythnos |
3. Y drydedd wythnos3. Y drydedd wythnos |
4. Y bedwaredd wythnos4. Y bedwaredd wythnos |
5. Yr ail fis5. Yr ail fis |
6. Y trydydd mis6. Y trydydd mis |
7. Dwi wedi methu!7. Dwi wedi methu! |